Dewch yn Ofalwr Maeth yng Nghymru
Yn anffodus, mae bron i 7,000 o blant yng Nghymru mewn sefyllfa lle na all eu teuluoedd eu hunain ofalu amdanynt. Rydym yn chwilio am ofalwyr maeth ledled Cymru i ddarparu gofal a chymorth i blant a phobl ifanc mwyaf bregus ac sy’n agored i niwed y wlad.
Pan fyddwch yn dewis maethu gyda TACT, byddwch yn derbyn lwfans maethu hael, cymorth 24/7 yn ogystal â rhaglen hyfforddi gynhwysfawr.
Mae angen mwy o ofalwyr arnom yn yr ardaloedd yma:
Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Llandrindod, Llanelli, Castell-Nedd, Y Drenewydd, Port Talbot, Rhondda Cynon Taf, Abertawe, y Trallwng, a Wrecsam.
Yn ddelfrydol, hoffem glywed gan bobl a hoffai ofalu am blant dros 5 oed, brodyr a chwiorydd neu blant ag anghenion cymhleth.
Pam maethu gyda TACT?
Nid asiantaeth maethu yn unig ydy TACT. Rydym yn rhoi plant wrth wraidd popeth a wnawn ac mae ein holl incwm dros ben yn mynd yn ôl i gynorthwyo ein gofalwyr a’r plant y maent yn gofalu amdanynt.
- TACT ydy’r elusen maethu a mabwysiadu fwyaf y DU. Golygir hyn bod ein holl incwm dros ben yn cael ei ailfuddsoddi i gynorthwyo ein gofalwyr a’n pobl ifanc.
• Cymorth 24/7 gan sicrhau, beth bynnag a wynebwch fel gofalwr maeth, ni fyddwch ar ben eich hun
• Ffi broffesiynol gystadleuol, wedi’i gyfrifo yn dibynnu ar fanylion pob lleoliad
• Pecyn hyfforddi ardderchog, wedi’i deilwra i’ch anghenion chi a rhai’r plant sydd wedi’u lleoli gyda chi
• Cyfarfodydd a grwpiau cymorth rheolaidd, gan roi cyfle i chi gwrdd a rhannu profiadau â gofalwyr maeth eraill
• Digwyddiadau cymdeithasol i’r plant yn eich gofal, gan roi cyfleoedd iddynt gwrdd â phlant eraill sydd hefyd yn y sector gofal
Mae gofalwyr maeth yn dod atom am lawer o resymau – oherwydd rydym yn eu helpu i drawsnewid bywydau plant a phobl ifanc, gan roi cyfleoedd iddynt fyw bywydau hapus, a chariadus.